Hyfforddiant a Chyfleoedd

Physics Degree

Gradd MSc

Mae Adran Ffiseg Prifysgol Aberystwyth yn cynnig gradd MSc mewn Peirianneg Sbectrwm Radio, sy’n ymdrin â theori sylfaenol a chymwysiadau’r sbectrwm radio, ac yn ymwneud â theori craidd ar gyfer y maes, themâu a arweinir gan ymchwil, cymwysiadau ymarferol, a modiwlau sgiliau peirianneg.

Cydlynydd y cwrs MSc yw Dr Syeda Fizzah Jilani, Darlithydd yn Adran Ffiseg y Brifysgol. Cyn dechrau yn ei swydd yn Aberystwyth, bu Dr Jilani yn gweithio fel gwyddonydd ymchwil ym Mhrifysgol Maine, UDA, ar brosiect Adran Ynni yr Unol Daleithiau (DOE) ar drawsnewid technoleg synwyryddion RF amgylcheddol ar gyfer diwydiant. Dyfarnwyd PhD iddi mewn Antenâu ac Electromagneteg o Brifysgol Queen Mary yn Llundain yn 2018.

 

Mae diddordebau ymchwil Dr Jilani ym maes electromagneteg, lluosogi tonfeydd radio, monitro’r sbectrwm RF, antenâu y gellir eu hailgyflunio, antenâu hyblyg ar gyfer electroneg gwisgadwy’r genhedlaeth nesaf, araeau antena tonfeydd milimetr ar gyfer 5G a thu hwnt, arwynebau meta printiedig amledd uchel, synwyryddion tonfeydd acwstig ar y wyneb, a thrawsddygiaduron.

Mae’r Athro Andrew Evans yn dysgu ar y cwrs hefyd ac mae modd astudio’r cwrs yn rhannol neu’n gyfangwbl drwy gyfrwng y Gymraeg.

MSc Cyfathrebu Di-wifr a Pheirianneg Systemau Amleddau Radio

Mae’r Brifysgol hefyd yn datblygu cyrsiau eraill mewn Peirianneg Sbectrwm Radio wedi’u hanelu at fyfyrwyr yn ogystal â diwydiant a busnesau lleol sydd am uwchsgilio staff yn y meysydd cynyddol bwysig hyn.

Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP)

Innovate UK logo
Knowledge Transfer Partnerships logo

Mae KTP yn rhaglen flaenllaw sy’n helpu busnesau i lwyddo drwy eu cysylltu ag adnoddau academaidd cyfoethog y Deyrnas Unedig. Mae hi’n bartneriaeth dair ffordd rhwng busnes sy’n chwilio am arbenigedd, prifysgol a myfyriwr ôl-radd sydd newydd gymhwyso – a elwir yn Gydymaith.

Gall eich prosiect bara rhwng 12 mis a 3 blynedd. Bydd KTP yn ariannu hyd at 75% o holl geisiadau trydydd sector. Mae KTP yn cynnig partneriaeth dair ffordd rhwng academydd, busnes a myfyriwr graddedig. Gan gydweithio i gyflawni prosiect strategol, mae’r bartneriaeth ddeinamig hon yn canolbwyntio ar rannu arbenigedd, profiad ac adnoddau er mwyn sicrhau newid, gwreiddio gwybodaeth a sicrhau twf. Mae hyn yn werth gwych, yn enwedig gan fod tystiolaeth yn dangos bod busnesau sy’n buddsoddi mewn ymchwil a datblygu yn tyfu ddwywaith yn gyflymach a bod ganddynt allforion uwch o gymharu â rhai nad ydynt yn arloesi.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Helena O Sullivan