Newyddion

Prof Amit Kumar Mishra

Ffocws ffres ar ganolfan dechnoleg arloesol prifysgol

05 Gorffennaf 2024  

Mewn byd sy’n fwyfwy dibynnol ar dechnolegau diwifr – o ffonau clyfar i ffermio deallus, cerbydau ymreolaethol, Rhyngrwyd Pethau, gofal iechyd a llawer mwy – gallai canolbarth Cymru helpu i fynd i’r afael â heriau chwyldro diwydiannol newydd yn ôl arbenigwr o fri rhyngwladol yn y maes peirianneg sbectrwm radio.

Mae’r Athro Amit Kumar Mishra, a ymunodd â Phrifysgol Aberystwyth fel Cyfarwyddwr y Ganolfan Sbectrwm Genedlaethol ym mis Mawrth, yn credu y gallai gwaith y Ganolfan drawsnewid cysylltedd mewn ardaloedd gwledig, gan greu swyddi o ansawdd uchel a chefnogi’r genhedlaeth nesaf o dechnolegau digidol.

Daw’r Athro Mishra â chyfoeth o brofiad rhyngwladol i’r rôl ar ôl gweithio yn India, Awstralia a Sweden wedi iddo gwblhau ei PhD ym Mhrifysgol Caeredin.

Yn fwy diweddar roedd yn aelod o Grŵp Synhwyro o Bell Radar ym Mhrifysgol Cape Town yn Ne Affrica.

Mae gwaith yr Athro Mishra wedi canolbwyntio fwyfwy ar fentrau sy’n mynd i’r afael â nodau datblygu cynaliadwy ac mae ei benodiad wedi arwain at newid ffocws y Ganolfan Sbectrwm Genedlaethol.

Ers ymuno â Phrifysgol Aberystwyth mae wedi dechrau gweithio ar brosiect ymchwil sy’n cael ei ariannu gan Sefydliad Technoleg India Indore i ddefnyddio amleddau sbectrwm radio presennol i wneud trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn ac i gefnogi synhwyro amaethyddiaeth ddeallus.

Mae prosiectau eraill sydd ar y gweill yn cynnwys gwella cynhwysiant mewn trafnidiaeth, defnyddio technoleg drôn i fonitro colli gwres mewn adeiladau, systemau canfod tyllau yn y ffyrdd, a defnyddio dysgu peirianyddol i wneud diagnosis o lefel y brys mewn galwadau brys yn seiliedig ar iechyd.

“Bydd gweithio ar y cyd â sefydliadau academaidd eraill, sefydliadau a mentrau bach a chanolig yn allweddol i ddatblygiad canolfan technoleg sbectrwm o fri cenedlaethol a rhyngwladol yn y dyfodol,” meddai’r Athro Mishra.

“Mae sbectrwm yn adnodd prin gyda nifer cynyddol o gymwysiadau. Mae’r pedwerydd a’r pumed chwyldro diwydiannol sy’n cael eu trafod yn aml yn dibynnu ar dechnoleg sbectrwm fel adnodd craidd ac anhepgor ac mae canolbarth Cymru yn cynnig amgylchedd delfrydol lle gellir profi arloesedd sbectrwm.

Wedi’i ddatblygu dros nifer o flynyddoedd, rhagwelwyd y cysyniad gwreiddiol ar gyfer y Ganolfan Sbectrwm Genedlaethol fel partneriaeth â QinetiQ ac yn destun cais am gyllid i Fargen Twf Canolbarth Cymru.

Mae’r cynlluniau hyn wedi esblygu sy’n golygu na fydd y Ganolfan Sbectrwm bellach yn bartneriaeth gydag unrhyw sefydliad trydydd parti. Mae’r cais gwreiddiol i Fargen Twf Canolbarth Cymru hefyd wedi’i dynnu’n ôl.

Ychwanegodd yr Athro Mishra: “Gallai’r ganolfan ymchwil sbectrwm genedlaethol ddod â manteision mawr i economi canolbarth Cymru, tra’n dod â budd i fusnesau lleol a sectorau fel amaethyddiaeth sy’n troi fwyfwy at dechnoleg i gynyddu cynhyrchiant a lleihau ei heffaith amgylcheddol,” ychwanegodd.

Cam ymlaen i gynlluniau ar gyfer canolfan sbectrwm a pharc busnes gwyrdd

03 Tachwedd 2022

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi croesawu’r newyddion bod dau brosiect blaenllaw wedi cael sêl bendith i symud ymlaen i ail gymal Bargen Twf Canolbarth Cymru, sy’n werth miliynau o bunnoedd.

Yn dilyn y cyhoeddiad, bydd gwaith pellach yn cael ei wneud nawr ar yr achosion busnes ar gyfer Canolfan Sbectrwm Genedlaethol a Pharc Arloesi Dyfodol Gwyrdd.

Darllen mwy

Gogerddan

Canolfan Sbectrwm Genedlaethol yn hwb posib i swyddi yn y Canolbarth

16 Tachwedd 2020

Gallai sefydlu Canolfan Sbectrwm Genedlaethol yn y Canolbarth arwain at greu dros 60 o swyddi llawn-amser, uchel eu gwerth, yn ôl Asesiad Effaith Economaidd gan Ysgol Fusnes Prifysgol Aberystwyth yn 2020. Amcangyfrifa’r astudiaeth y gallai rhwng 42 a 66.5 o swyddi llawn amser gael eu creu o ganlyniad uniongyrchol i sefydlu’r Ganolfan 

Darllen mwy

Cam ymlaen i gynlluniau ar gyfer Canolfan Sbectrwm a Pharc Busnes Gwyrdd

18 Medi 2018

Bu Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns AS, yn traddodi araith gyweirnod mewn digwyddiad ffocws arbennig ym Mhrifysgol Aberystwyth heddiw, ddydd Mawrth 18 Medi 2018, digwyddiad gafodd ei gynnull i ystyried sefydlu canolfan sbectrwm arloesol ar gyfer y DU yng nghanolbarth Cymru.

Darllen mwy