Pobl

Prof Amit Kumar Mishra

Yr Athro Amit Kumar Mishra

Cyfarwyddwr y Ganolfan Sbectrwm Genedlaethol

Mae AMIT KUMAR MISHRA (Aelod Uwch, IEEE) yn ymchwilydd ym maes dylunio synwyryddion, telathrebu, radar, dysgu peirianyddol, ac arloesi cynnil. Ei feysydd ymchwil presennol yw cyfathrebu a synhwyro ar y cyd (JCAS) a phensaernïaeth gyfrifiadurol bio-ysbrydoledig. Ar hyn o bryd mae’n Athro gydag Adran Cyfrifiadureg, Prifysgol Aberystwyth lle mae hefyd yn Gyfarwyddwr y Ganolfan Sbectrwm Genedlaethol.

 

Dr Syeda Fizzah Jilani

Darlithydd mewn Peirianeg Sbectrwm Radio

Mae Dr Syeda Fizzah Jilani yn Ddarlithydd yn yr Adran Ffiseg, Prifysgol Aberystwyth, DU, lle mae’n gydlynydd cwrs ar gyfer MSc. Peirianneg Sbectrwm Radio.

 

Prof Huw Morgan

Yr Athro Huw Morgan

Pennaeth Dros Dro yr Adran Ffiseg

Mae Huw Morgan yn Athro Ffiseg y Gofod ac yn Bennaeth Dros Dro Adran Ffiseg Prifysgol Aberystwyth. Yn gyn Gymrawd Ymchwil Leverhulme, derbyniodd ei PhD mewn Ffiseg Solar yn Aberystwyth yn 2005 a bu’n gweithio yn Sefydliad Seryddiaeth Prifysgol Hawaii am chwe mlynedd. Mae’n arwain Grŵp Ffiseg y Gofod y Brifysgol ac yn gweithio’n agos gydag ystod o bartneriaid diwydiant. Mae’r Athro Morgan wedi cyhoeddi mwy na 100 o bapurau a adolygwyd gan gymheiriaid yn rhai o brif gyfnodolion y gofod ac mae wedi arwain neu chwarae rhan flaenllaw oddi mewn i sawl cydweithrediad rhyngwladol, gan sicrhau cyllid ymchwil gan Asiantaeth Ofod y DU a chyllidwyr allweddol eraill.

Helena O Sullivan

Helena O Sullivan

Swyddog Datblygu Busnes

Helena O Sullivan yw’r Swyddog Datblygu Busnes sy’n cefnogi prosiectau yn y Ganolfan Sbectrwm Genedlaethol.

 

Helena O Sullivan

Anikó Német

Myfyriwr PhD a Chynorthwyydd Ymchwil mewn ffiseg peiriannol

Mae Anikó Német yn gynorthwyydd ymchwil PhD sy’n astudio ffiseg peiriannol yn Adran Ffiseg Prifysgol Aberystwyth. Mae ei hymchwil ar archwilio dyluniadau a methodolegau arloesol sy’n deall, efelychu ac adeiladu prototeipiau o antenâu tonnau milimetr 5G.