Amdanom ni
Nod y Ganolfan yw helpu i fynd i’r afael â’r galw cynyddol am gymwysiadau a thechnolegau newydd sy’n defnyddio’r sbectrwm radio gan gynnwys meysydd megis ffermio deallus, Rhyngrwyd y Pethau, cerbydau ymreolaethol ar y tir, y môr a’r awyr, tu hwnt i 5G, a monitro iechyd o bell.
Bydd y Ganolfan yn gwneud defnydd o amgylcheddau arfordirol, ucheldirol a gwledig amrywiol yng Ngheredigion a Phowys, gydag arsyllfa ganolog yn adeilad yr Arglwydd Milford ar gampws Gogerddan.
Triongl y Ganolfan Sbectrwm Genedlaethol
Mae gweithgaredd y Ganolfan wedi’i strwythuro o dan dri maes:
- Sbectrwm Cynaliadwyedd
- Sbectrwm Gofod a Diogelwch
- Sbectrwm Deunydd, Symudedd, Gweithgynhyrchu a Morol
Mae’r prosiect yn cael ei ddatblygu fel rhan o Fargen Twf Canolbarth Cymru ac mae’n seiliedig ar ymgysylltu gweithredol ag amrywiaeth o sectorau diwydiant ac adrannau’r llywodraeth.
Mae Bargen Twf Canolbarth Cymru, sydd wedi’i gosod o fewn Gweledigaeth ehangach ar gyfer Tyfu Canolbarth Cymru, yn fuddsoddiad hirdymor sy’n darparu cyllid cyfalaf i gefnogi seilwaith economaidd o bwys rhanbarthol sy’n sbarduno buddsoddiad gan y sector preifat ac yn ysgogi twf.
Wedi’i harwain gan Gynghorau Sir Ceredigion a Phowys, mae’r Fargen Twf yn cael ei chefnogi gan ymrwymiad cyfun o £110m gan Lywodraethau’r DU a Chymru i drosoli buddsoddiad cyhoeddus a phreifat pellach. Ei nod yw creu swyddi hirdymor a chynyddu cynhyrchiant, gan chwarae rhan allweddol mewn ysgogi adferiad a thwf economaidd ar draws y rhanbarth.