Cydweithio

Mae cydweithio â’r diwydiant, llywodraeth a phartneriaid eraill i fynd i’r afael â heriau’n gysylltiedig â’r sbectrwm radio yn elfen annatod o weledigaeth y Ganolfan Sbectrwm Genedlaethol. Yn wir, mae’r prosiect yn deillio o gydweithio agos ac ymgysylltu gyda phartneriaid o’r diwydiant, gan ymateb i anghenion penodol ar adeg o newid technegol mawr. Cafwyd cyllid gan Lywodraeth cymru tuag at y gwaith o greu hwb ar gyfer y Ganolfan yn Adeilad yr Arlgwydd Milford ar gampws Gogerddan. Mae’r prosiect yn asio â blaenoriaethau llywodraethau rhanbarthol, Cymru a’r DU o ran harneisio arloesedd i sbarduno twf economaidd.

Triongl y Ganolfan Sbectrwm Genedlaethol

 

Mae gweithgaredd y Ganolfan Sbectrwm Genedlaethol wedi’i strwythuro ar hyn o bryd o dan dri philer a byddwn yn gweithio gyda phartneriaid cyflawni allweddol ar gyfer pob piler yn ogystal ag ystod o bartneriaid diwydiant eraill.

 

  • Sbectrwm Cynaliadwyedd
  • Sbectrwm Gofod a Gwyliadwriaeth
  • Sbectrwm Deunydd, Symudedd, Gweithgynhyrchu a Morol
Triongl y Ganolfan Sbectrwm Genedlaethol

Datganiad o ddiddordeb