Cyflymu arloesiadau sbectrwm trwy ymchwil ac arbrofi

Mae’r Ganolfan Sbectrwm Genedlaethol (CSG) yn bartneriaeth arloesol rhwng Prifysgol Aberystwyth, Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid sy’n ymwneud â thechnolegau sbectrwm radio.

Bydd y cyfleuster arloesi ac ymchwil hwn yn darparu hyfforddiant, arbenigedd ymchwil a seilwaith ar gyfer y genhedlaeth nesaf o beirianwyr systemau radio i harneisio potensial technolegau diwifr yn y DU.

Bydd hyn yn arwain at greu swyddi gwerth uchel yng Nghanolbarth Cymru a datblygu’r rhanbarth fel canolfan technolegau, ymchwil a phrofion sy’n seiliedig ar sbectrwm sy’n arwain y byd.

Nod y Ganolfan yw helpu i fynd i’r afael â’r galw cynyddol am gymwysiadau a thechnolegau newydd sy’n defnyddio’r sbectrwm radio gan gynnwys meysydd megis ffermio deallus, Rhyngrwyd y Pethau, cerbydau ymreolaethol ar y tir, y môr a’r awyr, tu hwnt i 5G, a monitro iechyd o bell.

Bydd y Ganolfan yn gwneud defnydd o amgylcheddau arfordirol, ucheldirol a gwledig amrywiol yng Ngheredigion a Phowys, gydag arsyllfa ganolog yn adeilad yr Arglwydd Milford ar gampws Gogerddan.

Lleoliadau

Bydd y Ganolfan Sbectrwm Genedlaethol yn seiliedig ar fodel canolbwynt ac adenydd, gydag arsyllfa ganolog yn ogystal ag amrywiaeth o amgylcheddau ystod radio awyr agored ar gyfer profi ac arbrofi.

Hyfforddiant

 

Mae Adran Ffiseg Prifysgol Aberystwyth yn cynnig gradd MSc mewn Peirianneg Sbectrwm Radio, sy’n ymdrin â theori sylfaenol a chymwysiadau’r sbectrwm radio, ac yn ymwneud â theori craidd ar gyfer y maes, themâu a arweinir gan ymchwil, cymwysiadau ymarferol, a modiwlau sgiliau peirianneg.

Physics Degree