Digwyddiadau

NSC Workshop London
NSC Workshop
NSC Workshop

Gweithdy’r Ganolfan Sbectrwm Genedlaethol – Llundain

04 Hydref 2024

Daeth llunwyr polisi, rheoleiddwyr, busnesau ac academyddion ynghyd yn Llundain ar 4 Hydref 2024 ar gyfer yr ail mewn cyfres o weithdai rhyngweithio â diwydiant a drefnwyd gan Ganolfan Sbectrwm Genedlaethol Prifysgol Aberystwyth. Nod y digwyddiad oedd rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf am weithgareddau’r Ganolfan a sut y gall gefnogi’r genhedlaeth nesaf o dechnolegau diwifr. Roedd hefyd yn gyfle gwerthfawr i ymgysylltu â defnyddwyr posibl y Ganolfan a chanfod mwy am eu gofynion sbectrwm yn y dyfodol.  

Cynhaliwyd y gweithdy yn swyddfeydd y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg yng nghanol Llundain ac fe agorodd gyda chyflwyniad gan yr Athro Amit Kumar Mishra, Cyfarwyddwr y Ganolfan Sbectrwm, a soniodd am ei genhadaeth a’i weledigaeth ynghyd a’r hyn oedd yn unigryw ynghylch cynnig y Ganolfan. Esboniodd sut y byddai’r Ganolfan yn helpu i fynd i’r afael â’r galw cynyddol am gymwysiadau a thechnolegau newydd sy’n defnyddio sbectrwm radio, gan gynnwys meysydd fel amaethyddiaeth ddeallus; Rhyngrwyd y Pethau; trafnidiaeth gyhoeddus; cerbydau tir, môr ac awyr ymreolaethol; monitro iechyd o bell a 6G. Tynnwyd sylw hefyd at lwybrau ariannu posibl a chyfleoedd i gydweithio â’r Ganolfan Sbectrwm ar brosiectau ymchwil.

Roedd y siaradwyr gwadd yn cynnwys Clare Allen, Uwch Beiriannydd Sbectrwm Ofcom, a amlinellodd sut mae’r tirlun yn newid o ran mynediad sbectrwm a rheoleiddio telathrebu; Laura Iglesias, Pennaeth Polisi Arloesedd Sbectrwm yn Adran Gwyddoniaeth, Arloesedd a Thechnoleg y DU, a siaradodd am sut mae technolegau sbectrwm a ffyrdd newydd o rannu adnoddau sbectrwm yn hanfodol i gyflymu twf diwydiannol, a’r Athro Simon Saunders, Cadeirydd Gweithgorau Arbenigol UKTIN, dynnodd sylw at bwysigrwydd rheoli data sbectrwm a’r angen am gyfleusterau fel y Ganolfan Sbectrwm ar gyfer profi ar raddfa fawr. Ymhlith y siaradwyr eraill roedd Jon Spencer, Prif Wyddonydd Systemau C4 DSTL, a Julie Russell, Rheolwr Datblygu Busnes yn Llywodraeth Cymru.

Roedd sesiynau trafod yn rhan annatod o raglen y dydd hefyd, gyda grwpiau llai yn edrych ar gymwysiadau a buddion posibl technolegau sbectrwm yn eu sefydliadau priodol. 

NSC Workshop
NSC Workshop
NSC Workshop

Gweithdy’r Ganolfan Sbectrwm Genedlaethol – Aberystwyth

11 Mehefin 2024

Cynhaliodd y Ganolfan Sbectrwm Genedlaethol ei gweithdy rhyngweithio diwydiant cyntaf yn AberInnovation yn Aberystwyth ddydd Gwener 21 Mehefin 2024. Mynychwyd y gweithdy gan fwy na 40 o gyfranogwyr yn cynrychioli tua 30 o sefydliadau o bob rhan o’r Deyrnas Gyfunol. Nod y gweithdy oedd rhannu gwybodaeth am y Ganolfan Sbectrwm, ymgysylltu â defnyddwyr terfynol posibl, darganfod mwy am eu gofynion sbectrwm a sicrhau bod cynigion y Ganolfan Sbectrwm yn denu cymaint o Fusnesau Bach a Chanolig â phosibl.

Agorwyd y digwyddiad gydag anerchiad croeso gan yr Athro Angela Hatton, Dirprwy Is-ganghellor Ymchwil, Cyfnewid Gwybodaeth ac Arloesi ym Mhrifysgol Aberystwyth. Dilynwyd hyn gan sgwrs gan yr Athro Amit Kumar Mishra, Cyfarwyddwr newydd y Ganolfan Sbectrwm, a osododd ei genhadaeth a’i weledigaeth ynghyd â chynnig gwerth unigryw’r Ganolfan. Eglurodd sut y byddai’r Ganolfan Sbectrwm yn canolbwyntio ar dri phrif faes i helpu i fynd i’r afael â’r galw cynyddol gyflym am gymwysiadau a thechnolegau newydd sy’n defnyddio sbectrwm radio, gan gynnwys meysydd fel ffermio deallus; rhyngrwyd pethau; cerbydau ymreolaethol; monitro iechyd o bell a thu hwnt i 5G.

Yn ogystal â chyflwyniadau, roedd sesiynau grŵp yn rhan annatod o’r diwrnod gyda grwpiau llai yn gweithio trwy gymwysiadau a heriau posibl technolegau sbectrwm yn eu sefydliadau priodol. Un llinyn trafod cyffredin oedd potensial y Ganolfan Sbectrwm i bontio’r bwlch sgiliau yn y sector amledd radio trwy gynnig hyfforddiant, interniaethau a chyrsiau datblygiad proffesiynol parhaus. Un arall oedd darparu ystod o safleoedd ar gyfer profion gwerthuso hirdymor ar dechnolegau sbectrwm newydd.

Daeth y gweithdy i ben gyda diolch a rhestr o gamau gweithredu. Mae’r Ganolfan Sbectrwm bellach yn cynllunio gweithdy dilynol gyda mwy o gynnwys technegol o sectorau gwahanol i’w gynnal yn Llundain ddechrau mis Hydref 2024.