09 Hydref 2024
Daeth llunwyr polisi, rheoleiddwyr, busnesau ac academyddion ynghyd yn Llundain ar 4 Hydref 2024 ar gyfer yr ail mewn cyfres o weithdai rhyngweithio â diwydiant a drefnwyd gan Ganolfan Sbectrwm Genedlaethol Prifysgol Aberystwyth. Nod y digwyddiad oedd rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf am weithgareddau’r Ganolfan a sut y gall gefnogi’r genhedlaeth nesaf o dechnolegau diwifr. Roedd hefyd yn gyfle gwerthfawr i ymgysylltu â defnyddwyr posibl y Ganolfan a chanfod mwy am eu gofynion sbectrwm yn y dyfodol.
Cynhaliwyd y gweithdy yn swyddfeydd y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg yng nghanol Llundain ac fe agorodd gyda chyflwyniad gan yr Athro Amit Kumar Mishra, Cyfarwyddwr y Ganolfan Sbectrwm, a soniodd am ei genhadaeth a’i weledigaeth ynghyd a’r hyn oedd yn unigryw ynghylch cynnig y Ganolfan. Esboniodd sut y byddai’r Ganolfan yn helpu i fynd i’r afael â’r galw cynyddol am gymwysiadau a thechnolegau newydd sy’n defnyddio sbectrwm radio, gan gynnwys meysydd fel amaethyddiaeth ddeallus; Rhyngrwyd y Pethau; trafnidiaeth gyhoeddus; cerbydau tir, môr ac awyr ymreolaethol; monitro iechyd o bell a 6G. Tynnwyd sylw hefyd at lwybrau ariannu posibl a chyfleoedd i gydweithio â’r Ganolfan Sbectrwm ar brosiectau ymchwil.
Roedd y siaradwyr gwadd yn cynnwys Clare Allen, Uwch Beiriannydd Sbectrwm Ofcom, a amlinellodd sut mae’r tirlun yn newid o ran mynediad sbectrwm a rheoleiddio telathrebu; Laura Iglesias, Pennaeth Polisi Arloesedd Sbectrwm yn Adran Gwyddoniaeth, Arloesedd a Thechnoleg y DU, a siaradodd am sut mae technolegau sbectrwm a ffyrdd newydd o rannu adnoddau sbectrwm yn hanfodol i gyflymu twf diwydiannol, a’r Athro Simon Saunders, Cadeirydd Gweithgorau Arbenigol UKTIN, dynnodd sylw at bwysigrwydd rheoli data sbectrwm a’r angen am gyfleusterau fel y Ganolfan Sbectrwm ar gyfer profi ar raddfa fawr. Ymhlith y siaradwyr eraill roedd Jon Spencer, Prif Wyddonydd Systemau C4 DSTL, a Julie Russell, Rheolwr Datblygu Busnes yn Llywodraeth Cymru.
Roedd sesiynau trafod yn rhan annatod o raglen y dydd hefyd, gyda grwpiau llai yn edrych ar gymwysiadau a buddion posibl technolegau sbectrwm yn eu sefydliadau priodol. Un llinyn trafod cyffredin oedd potensial y Ganolfan Sbectrwm i bontio’r bwlch sgiliau yn y sector amledd radio trwy gynnig hyfforddiant, interniaethau a chyrsiau datblygiad proffesiynol parhaus. Un arall oedd darparu ystod o safleoedd ar gyfer profion gwerthuso hirdymor ar dechnolegau sbectrwm newydd.
“Roedd hwn yn weithdy hynod werthfawr i ni ac i randdeiliaid sydd â diddordeb mewn darganfod mwy am y Ganolfan Sbectrwm Genedlaethol ynghyd â chyfleoedd i gydweithio yn ogystal â chyllid a buddsoddiad” meddai’r Athro Kumar. “Yn ogystal ag arddangos galluoedd y Ganolfan a thrafod materion o bryder cyffredin, roeddem hefyd eisiau creu llwyfan rhwydweithio i chwaraewyr ym maes arloesi sbectrwm i rwydweithio a thrafod sut orau y gall y Ganolfan Sbectrwm sbarduno eu gweithgareddau arloesi yng Nghymru. Diolch yn fawr i’r siaradwyr a phawb ddaeth aton ni ar y diwrnod.”
Os hoffech wybod mwy am waith y Ganolfan Sbectrwm a chyfleoedd i arloesi a chydweithio, anfonwch e-bost at yr Athro Mishra amm89@aber.ac.uk neu sbectrwm@aber.ac.uk.